Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gorffennaf 2014
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar gyfer y Bil Seilwaith
1. Ar 24 Mehefin 2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i wahodd Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Seilwaith.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 18 Medi 2014.